Tystiolaeth Llywodraeth Cymru ar Gydymffurfio â Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 a Diweddariad ar Gynllun Gweithredu ‘Gwneud Pethau’n Iawn’ CCUHP.

 

Diben

 

Paratowyd y papur er mwyn rhoi gwybodaeth am gydymffurfiad â Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 a Diweddariad ar y Cynllun Gweithredu ‘Gwneud Pethau’n Iawn’ 2013 i aelodau’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc.

 

Cyflwyniad

 

Mae Llywodraeth Cymru yn bendant ynglŷn â’i hymrwymiad i wella bywydau plant a phobl ifanc. Roedd cyflwyno Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn arwydd o’r ymrwymiad hwn ac rydym yn benderfynol y bydd yn parhau i gael effaith gadarnhaol ar blant, ar bobl ifanc ac ar eu teuluoedd.

 

Ar 1 Mai 2013 bydd blwyddyn wedi mynd heibio ers i’r ddyletswydd ‘sylw dyledus’ ddod yn gyfraith yng Nghymru. Rydym yn hyderus ein bod wedi gwneud cynnydd da. Mae mwy o waith o’n blaenau a byddwn yn dadansoddi’r canlyniadau sy’n dangos effaith y dyletswyddau newydd hyn yn ofalus, ac yn defnyddio’r gwersi a ddysgir i ddatblygu ein dulliau gweithredu. Datblygu diwylliant o ystyried hawliau plant o fewn holl weithgarwch Llywodraeth Cymru yw ein nod.  

 

Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011

 

Adran 1 – Dyletswydd i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP)

 

O 1 Mai 2012 hyd at ac yn cynnwys 30 Ebrill 2014, mae’r ddyletswydd yn berthnasol i benderfyniadau Gweinidogion Cymru am unrhyw un o’r canlynol:

 

·         deddfwriaeth newydd arfaethedig

·         polisïau newydd arfaethedig

·         adolygiad neu newid i bolisi a/neu ddeddfwriaeth.

 

O 1 Mai 2014, bydd rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r ddyletswydd wrth arfer pob un o’u swyddogaethau.

 

Datblygwyd amryw o adnoddau i sicrhau cydymffurfiad, er mwyn cynorthwyo swyddogion i ddeall eu cyfrifoldebau o ran y Mesur. Mae pecynnau hyfforddi ar-lein hefyd ar gael ar draws Llywodraeth Cymru, er mwyn gwella dealltwriaeth o CCUHP.

 

Ymysg y gweithgareddau eraill cynhaliwyd seminarau ‘Dysgu dros Ginio’, hyfforddiant penodol ar gyfer timau, a chymorth unigol yn ôl y galw. Mae tudalen benodol ar y wefan yn cynnwys ffynonellau, gan gynnwys cwestiynau cyffredin, copi llawn a fersiynau cryno o’r Confensiwn, yn ogystal â ffynonellau gwybodaeth defnyddiol eraill.

 

Pecyn pwysig arall a gyflwynwyd yw’r Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant. Datblygwyd y pecyn er mwyn sicrhau bod swyddogion yn darparu tystiolaeth eu bod wedi dadansoddi ac wedi ystyried hawliau plant wrth gynghori Gweinidogion.

 

Canllaw ag iddo chwe cham yw’r Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant. Mae’n diffinio’n glir y broses y mae’n rhaid i swyddogion ei dilyn wrth baratoi cyngor. Mae’r Asesiad hefyd yn rhan o’r templed briffio a chynghori y mae’n rhaid i holl swyddogion Llywodraeth Cymru ei lenwi wrth gyflwyno cyngor i Weinidogion.  

 

Datblygiad pwysig arall oedd creu Grŵp Monitro’r Cynllun Hawliau Plant, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o holl feysydd y Cyfarwyddwyr Cyffredinol yn Llywodraeth Cymru.  Ei dasg yw goruchwylio’r gwaith o weithredu’r Mesur ac mae’r aelodau yn gweithredu fel ‘hyrwyddwyr’ wrth godi ymwybyddiaeth yn eu priod feysydd.

 

Adran 2 – Y Cynllun Hawliau Plant 2012

 

Roedd y Cynllun Hawliau Plant a gymeradwywyd ar 27 Mawrth 2012 yn nodi trefniadau Gweinidogion Cymru i sicrhau eu bod hwy a’u swyddogion yn cydymffurfio â’r ddyletswydd sylw dyledus.

 

Mae’r cynllun yn disgrifio swyddogaethau a chyfrifoldebau pobl a grwpiau penodol:

 

·         Y Grŵp Llywio Cyflawni – mae’r grŵp hwn yn cynnwys aelodau o bob maes Cyfarwyddwr Cyffredinol yn Llywodraeth Cymru. DS Yn dilyn y broses ymgynghori newidiwyd hwn i grŵp monitro’r Cynllun Hawliau Plant o ganlyniad i’r adborth.

 

·         Y Tîm Cyflawni – dyma’r tîm sy’n arwain ar weithredu’r Mesur yn Llywodraeth Cymru.

 

·         Staff Llywodraeth Cymru – sef pob aelod o staff.

 

·         Rhanddeiliaid Allanol – mae gweithio gydag arbenigwyr yn y maes wedi bod yn amhrisiadwy, a bydd yn parhau i fod felly. Rydym wedi gwerthfawrogi eu hadborth ar bob agwedd o’r Mesur yn fawr iawn.

 

·         Rydym hefyd wedi gweithio’n agos â’r archwilwyr mewnol sy’n cynnal eu hail archwiliad ar hyn o bryd.

 

Mae’n bwysig nodi bod y Cynllun Hawliau Plant yn disgrifio sut y gall plant neu eu cynrychiolwyr herio Gweinidogion Cymru os credant na roddwyd sylw digonol i hawliau plant. Mae’r Tîm Gweithredu wedi paratoi fersiwn ryngweithiol o broses gwynion gorfforaethol Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth ar gael i bawb. Mae’r fersiwn hon ar gael ar-lein ac mae’n addas ar gyfer plant a phobl ifanc.

 

Adran 3 – Paratoi a Chyhoeddi Cynllun 2012

 

Roedd yn bwysig ein bod yn mynd ati’n gynhwysol fel rhan o’r broses hon, ac yn sicrhau bod plant a allai fod ar yr ymylon yng Nghymru yn cael eu cynnwys.

 

Cymerodd rhyw 400 o blant ran yn y broses ymgynghori, gan gyfrannu at ddatblygu’r Cynllun Hawliau Plant. Comisiynodd y Tîm Gweithredu weithdai ledled Cymru a chysylltu â phlant a phobl ifanc anodd eu cyrraedd, yn ogystal â chysylltu ag amryw o ysgolion. Paratowyd fersiwn addas ar gyfer pobl ifanc o’r ddogfen ymgynghori a’i defnyddio yn y gweithdai.

 

Cynhaliodd swyddogion Llywodraeth Cymru weithdai yn swyddfeydd y Llywodraeth ledled Cymru hefyd.

 

Ymatebodd 26 o sefydliadau i’r ymgynghoriad, gan gynnwys Achub y Plant a Chomisiynydd Plant Cymru. Rhoddodd y rhain adborth pwysig er mwyn cyfrannu at ddatblygu’r cynllun.  

 

Adran 4 - Adroddiadau

 

Cyhoeddwyd yr Adroddiad Cydymffurfio ar 31 Ionawr 2013 a’i roi gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â gofynion y Mesur.

 

Adran 5 – Dyletswydd i hybu gwybodaeth o’r Confensiwn

 

Yn ôl Adran 5 rhaid i Weinidogion Cymru cymryd unrhyw gamau priodol i gynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth y cyhoedd yng Nghymru, gan gynnwys plant, o’r Confensiwn.

 

Mae swyddogion eisoes wedi:

 

·         Paratoi hyfforddiant ar-lein ar gyfer gweithwyr proffesiynol/gwirfoddolwyr allanol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

·         Comisiynu rhaglenni hyfforddi’r hyfforddwyr ar gyfer gyrff amrywiol fel yr Heddlu a gweithwyr proffesiynol ym maes Iechyd a Mewnfudo.

·         Paratoi ffilm fer ar hawliau plant, a wnaed gan blant, ar gyfer plant.

·         Paratoi ap ffôn symudol sy’n disgrifio pob un o’r hawliau hyn. Mae’n cynnwys rhestr o wasanaethau cymorth a allai fod o gymorth wrth ddelio â materion yn ymwneud â hawliau plant.

·         Diweddaru ein hadnoddau, ac maent hefyd wrthi’n diweddaru’r wefan Gwneud Pethau’n Iawn. Mae ein holl adnoddau a gwybodaeth am hawliau plant a’r Confensiwn ar gael gyda’i gilydd ar y safle, i’w defnyddio gan blant a phobl ifanc, a chan weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

 

Mae’r holl adnoddau uchod ar gael ar wefan allanol Llywodraeth Cymru.

 

Adran 6 – Y pŵer i ddiwygio deddfwriaeth

 

Nid oes angen diwygio’r ddeddfwriaeth ar hyn o bryd. Gall hyn newid os bydd angen hynny yn y dyfodol er mwyn gweithredu hawliau’r Confensiwn a’i Brotocolau ymhellach neu’n well.

 

Adran 7 – Ceisiadau i bobl ifanc 18–24 oed.

 

Cynhaliwyd proses ymgynghori 12 wythnos yn 2012 yn gofyn a oeddent o’r farn y dylid cymhwyso’r ddyletswydd sylw dyledus i bobl ifanc 18-24 oed, ac i ba raddau y dylid gwneud hynny. Ar ôl derbyn a dadansoddi’r holl ymatebion a ddaeth i law cyhoeddwyd adroddiad sy’n dod i’r casgliad na fydd y ddyletswydd yn cael ei hymestyn i’r grŵp oedran hwn.  

 

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn – Diweddariad ‘Gwneud Pethau’n Iawn’ 2013.

 

Mae’r Diweddariad ‘Gwneud Pethau’n Iawn’ yn seiliedig ar yr 16 Blaenoriaeth ar gyfer Cymru a gytunwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, fel yr oedd ar y pryd, a chynrychiolwyr Grŵp Monitro CCUHP yng Nghymru, a’u cyflwyno i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig.

 

Darperir manylion llawn y diweddariad i’r Pwyllgor ar ffurf atodiad i’r dystiolaeth hon.

 

 

 

Huw Lewis AM

Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi